Ffenestri a Drysau Casgliad Residence

Ffenestri a drysau sy’n edrych yn debyg i rai coed o Gasgliad Residence

Mae Casgliad Residence yn systemau ffenestri a drysau uPVC/coed cyfansawdd o’r safon uchaf wedi'u dylunio a'u gwneud ym Mhrydain Fawr.

Mae tri dewis ar gael; R9, y ffenestr wreiddiol sy’n edrych yn debyg i ffenestr goed; R7, y ffenestr godi gyfwyneb (flush) os ydych am edrychiad modern; a’r R2, ffenestr sy’n sefyll allan yn bensaernïol.

P'un ai y byddwch chi’n dewis R9, R7 neu R2 bydd gennych amrywiaeth eang o orffeniadau lliw chwaethus, gyda dau fath o orffeniad, a'r sicrwydd bod y nwyddau’n cael eu cynhyrchu i afonau diogelwch a pherfformiad thermol rhagorol ac i bara’n hir.

Ffenestri a Drysau Residence 9

Residence 9 yw'r dewis gwreiddiol, a gynlluniwyd i edrych fel dyluniadau coed o'r 19eg ganrif. Mae'r tu allan sy’n gyfwyneb (flush) ac yn draddodiadol yr olwg a’r tu mewn chwaethus yn creu'r esthetig clasurol, heb y gwaith cynnal a chadw costus a llafurus sydd ei angen ar ffenestri coed, ac mae gwell perfformiad thermol ac acwstig.

Mae Residence 9 yn edrych mor debyg i ffenestri coed nes y gellir ystyried eu defnyddio mewn ardaloedd cadwraeth. Fodd bynnag, nid yw apêl Residence 9 wedi'i gyfyngu i ardaloedd sy’n destun cyfyngiadau cynllunio; mae'r dyluniad ? a'r edrychiad hardd yn apelio at unrhyw berchennog tŷ sy'n chwilio am brand ffenestr foethus o'r radd uchaf a fydd yn gwella ac yn ychwanegu at eu cartref.

Ffenestri a Drysau Residence 7

Mae Residence 7 wedi'u cynllunio fel ffenestri codi cyfwyneb (flush) arbennig, gyda dewis o ddull uno sy’n amrywio o uniad croeslinol di-ffrâm sy’n creu edrychiad modern i uniad mecanyddol traddodiadol sy’n creu ffenestr sy’n edrych yn debyg i ffenestr goed.

Ffenestri cyfwyneb (flush) y tu mewn a’r tu allan, mae'r dewis o nwyddau R7 yn amlbwrpas heb fod yn gymhleth. Ceir ffenestri casment, ffenestri siâp, ffenestri bae a chrymion, orendai, stafelloedd gwydr, drysau sengl, drysau Ffrengig a drysau wedi'u cynhyrchu’n bwrpasol.

Ffenestri a Drysau Residence 2

Mae Residence 2 yn ddyluniad trawiadol sy’n sefyll allan yn bensaernïol. Uchafbwynt pensaernïol Casgliad Residence yw'r R2; mae llinellau glân y ffenestr godi hon, y tu allan cyfwyneb (flush) a’r tu mewn sgwâr yn cyfuno i roi edrychiad modern i R2.

Yn ogystal â'r dyluniad beiddgar, mae R2 yn cynnig perfformiad uwch. Wedi'i ardystio â sgôr ynni (ffenestri) A ++ mae'n cyrraedd safon Passivhaus pan gaiff ei gosod â gwydrau tair haen.

For further details please see the Residence Collection web site.

Pam rydyn ni'n hoffi drysau a ffenestri Casgliad Residence

Dechreuodd ein taith gyda'r Casgliad Residence gyda'u nwyddau R9 er mwyn cynnig ffenestri oedd yn edrych yn debyg i rai coed a oedd yn addas i hen dai. Ers hynny, rydyn ni wedi ehangu’r dewis, ac mae R7 a R2 hefyd ar gael bellach. Rydyn ni’n arbennig o hoff o'r apêl esthetig, y ffaith eu bod yn gweddu i hen dai, ac o well ansawdd.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu drafod prosiect i wella’ch cartref gyda ni.

Gweld Oriel Llun

Thank you very much for your personal care and attention in meeting our requests over the past months. We appreciate your very approachable style and quick response to our queries at all times. Thank you to the workmen who were excellent in their manner and workmanship over the past two days. They kept us fully informed of progress and were very ready to explain the process. Again this year, we have been very satisfied with the standard of work, and we are very pleased with the look of the door and window. Diolch yn fawr iawn
Mr & Mrs James, Colwyn Bay

Consumer Protection Association Logo FENSA Logo Secured by Design Logo
Atlas Logo Lumi Logo Markilux Logo Solarlux Logo Solidor Logo Apeer Logo Bereco Logo Internorm Logo Origin Logo REHAU Logo The Residence Collection Logo Roseview Logo
 

Anfon e-bost... Arhoswch...