Ffenestri a Drysau Alwminiwm Origin

Ffenestri a drysau alwminiwm chwaethus, hawdd eu cynnal

Caiff ffenestri a drysau Origin eu cynhyrchu yn y DU i’r safonau uchaf o ran ansawdd. Mae Origin yn cynhyrchu nwyddau mewn alwminiwm yn unig, ac mae eu hansawdd a'r gwasanaeth eithriadol yn golygu mai Origin yw ein dewis bob tro ar gyfer ffenestri, drysau, drysau llithro a drysau deublyg alwminiwm o’r radd uchaf.

Mae nifer o fanteision allweddol yn perthyn i ffenestri a drysau alwminiwm. Mae’r ffaith bod y deunydd yn gadarn ac yn ysgafn yn golygu bod modd defnyddio fframiau cul iawn, ac mae’n bosibl rhoi haen bowdwr mewn unrhyw liw RAL arnynt. Alwminiwm yw'r deunydd perffaith os mai estheteg a fframiau cul yw’r prif amcanion pensaernïol, a gan eu bod yn hawdd eu cynnal ac yn para am hir bydd eich buddsoddiad yn dal i edrych yn dda am flynyddoedd.

Mae alwminiwm hefyd yn cynnig perfformiad thermol rhagorol, ac mae nwyddau Origin yn cynnwys stribed thermol polyamid 35mm i sicrhau nad yw'r metel yn trosglwyddo gwres allan o'r stafell. Yn olaf, mae cryfder alwminiwm yn sicrhau na fydd hyd yn oed y fframiau mwyaf sy'n cynnwys paneli gwydr mawr, yn ystumio neu'n troi, gan sicrhau eu bod yn ffitio’n berffaith heb amharu ar eu heffeithlonrwydd thermol.

For further details please see the Origin web site.

Pam rydyn ni'n hoffi drysau a ffenestri alwminiwm Origin

Mae Peninsula yn falch o fod wedi llunio partneriaeth ag Origin ac o weithio gyda'r prif wneuthurwr hwn o Brydain. Mae ansawdd y nwyddau’n rhagorol, felly hefyd y gwasanaeth a'r gefnogaeth, ac mae cyflymder y gwasanaeth yn creu argraff barhaus arnom. Mae'r sylw i fanylder yn y dyluniad a'r adeiladu, hyd at yr handlenni a’r gasgedi o’r un lliw, yn golygu mai ffenestri a drysau alwminiwm safonol Origin yw’r dewis perffaith wrth i chi adeiladu neu adnewyddu cartref eich breuddwydion.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu drafod prosiect i wella’ch cartref gyda ni.

Gweld Oriel Llun

My wife and I would just like to convey our thanks to you and your team for the excellent job you have just completed in fitting the new double glazed windows and glass balustrading. Your fitters proved to be very diligent and professional in their approach to the job, in spite of some very trying weather conditions. The end result - draught free, warm rooms! As a result of our experience we have absolutely no hesitation in recommending your company to anyone who is considering similar work.
Keith & Ann Nash, Porthaethwy, Ynys Mon

Consumer Protection Association Logo FENSA Logo Secured by Design Logo
Atlas Logo Lumi Logo Markilux Logo Solarlux Logo Solidor Logo Apeer Logo Bereco Logo Internorm Logo Origin Logo REHAU Logo The Residence Collection Logo Roseview Logo
 

Anfon e-bost... Arhoswch...