Gwasanaeth Dylunio ac Adeiladu Peninsula

Mae hen ddyweliad, os gwneud rhywbeth, ei wneud yn iawn. Mae ein cynnyrch safonol a’r gwaith gosod arbennig yn galw am weithio gydag adeiladwyr o’r safon uchaf; mae ein sylw i fanylder a’n safonau uchel yn golygu mai dim ond y gorau sy’n dderbyniol gennym.

Gyda’r holl dalent mewnol rydym yn falch o gyhoeddi ein gwasanaeth dylunio ac adeiladu er mwyn cynnig ein harbenigedd yn ehangach.

Pan fyddwch yn gwahodd adeiladwyr i’ch cartref rydych eisiau sicrwydd y byddant yn gwneud gwaith safonol, o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, ac yn gadael eich cartref mewn cyflwr derbyniol. A phwy yn well i wneud y gwelliannau sydd ar gael gan Peninsula na’n tîm ein hunain?

Gwasanaeth Dylunio ac Adeiladu Cynhwysfawr ar gyfer Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer

Rydym yn gallu dylunio, cynnig cyngor ymarferol ac argymell y cynnyrch cywir, gofalu am ganiatâd cynllunio, a gwneud pob agwedd o’r gwaith adeiladu. Bydd y prosiect yr ydych yn breuddwydio amdano yn cael ei orffen mewn pryd, o fewn y gyllideb a – gyda’n partneriaethau a brandiau arbennig fel Solarlux, NorDan a Lumi – i’r safonau uchaf.

Os ydych yn ystyried estyniad arbennig i’ch lle byw, eco-estyniad, gardd aeaf, strwythur gwydr neu hyd yn oed estyniad traddodiadol, yna mae croeso i chi drafod eich gofynion gyda ni.

I wish to place on record my appreciation of the work carried out by two members of your staff. They arrived early at my home to install a replacement patio door. They removed the old door and fitted a new one. Their work was a credit to your company. After the installation everything was checked for correct operation, they then cleared up and left everywhere neat and tidy. My wife and I offer our thanks.
L Owen, Gaerwen, Ynys Mon

Consumer Protection Association Logo FENSA Logo Secured by Design Logo
Atlas Logo Lumi Logo Solarlux Logo Solidor Logo Rationel Logo Apeer Logo Bereco Logo Internorm Logo VELFAC Logo REHAU Logo The Residence Collection Logo Roseview Logo
 

Anfon e-bost... Arhoswch...