Drysau Patio sy’n Llithro Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Mae drysau patio a drysau llithro’n gynhyrchion sydd wedi hen ennill eu plwyf ac sydd wedi datblygu i’r pwynt eu bod yn gallu edrych yn debycach i wal symudol o wydr nac i ddrws.
Mae Peninsula Home Improvements yn cyflenwi systemau drysau llithro gyda’r gorau yn y diwydiant; mae ein drysau llithro gorau wedi’u dylunio’n ddeniadol, gyda fframiau tenau i greu edrychiad cyfoes, ond eto’n ddigon cryf i ddal uned gwydr dwbl sy’n pwyso hyd at 400kg.
Er gwaetha’r arwynebedd gwydr mawr, mae’r systemau drysau llithro a gyflenwir gan Peninsula yn cael eu cynhyrchu a’u gwneud i lefel arbennig fel eu bod yn llithro’n llyfn, gyda’r cyffyrddiad ysgafnaf.
Dewis rhwng Drysau Llithro/Patio a Drysau Plygu
Mae dewis rhwng drysau llithro / patio a drysau plygu yn gallu bod yn anodd; mae’r naill a’r llall yn cynnig agoriadau mawr ac yn edrych yn gyfoes. Mae gan y drysau patio mawr diweddaraf sy’n llithro arwynebedd gwydr enfawr sy’n agor stafelloedd allan, gan eu llenwi â golau, fel eich bod yn gweld allan yn glir.
Os ydych yn ystyried drws gwydr sy’n llithro neu’n plygu ar gyfer eich cartref, mae croeso i chi gysylltu â ni a byddwn yn falch o neilltuo amser i’ch helpu i ddewis y drws delfrydol i’ch cartref a’ch ffordd o fyw.
Ddogfennau i'w Lawrlwytho