Llusernau To / Goleuadau To Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Mae llusern to neu olau to gan Peninsula yn ffordd ddelfrydol i ychwanegu golau a chreu ymdeimlad o le agored gyda tho presennol, neu gallwch ei gynnwys fel rhan o estyniad newydd.
Gyda manteision arbennig o ran apêl gweledol a pherfformiad, llusernau to yw un o’r ffyrdd mwyaf cost effeithiol o agor stafell allan a chael cymaint â phosibl o olau naturiol.
Gadael i Olau Lifo i Mewn i’ch Cartref
Maent ar gael mewn gwahanol ddeunyddiau o goed a PVCu i alwminiwm llyfn, ac mewn dewis eang o liwiau. Gall llusernau to drawsnewid lle byw gan adael i olau naturiol lifo i mewn i’r stafell islaw.
Mae ein llusernau to ar gael mewn dewis o wydr dwbl neu dair haen i sicrhau’r perfformiad thermol ac acwstig gorau posibl.