Tai Gwydr Acubis Solarlux, Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer.
Beth yw Solarlux Acubis? Gwydr yw Acubis; golau; rhyddid; steil; a thechnoleg. Acubis yw’r perl yng nghoron tai gwydr Solarlux. Mae Peninsula yn hynod o falch o fod yn Bartner Gweithredol Solarlux ac o fod wedi gosod y tŷ gwydr Acubis cyntaf un yn y DU.
Mae Acubis yn ganopi agored, rhannol agored neu gaeedig; ac yn system tŷ gwydr heb ei hinswleiddio. Gall fod yn adeilad ar ei ben ei hun (pedair ochr) neu fod yn sownd yn y tŷ (tair ochr).
Acubis yw’r dewis gorau os ydych eisiau lle byw yn yr awyr agored, dyluniad minimalaidd, gyda strwythur cul, sy’n uno’r tu allan a’r tu mewn i greu lle byw y gallwch ei fwynhau ar hyd y flwyddyn.
Tŷ gwydr wedi’i ddylunio’n arbennig
Apêl Acubis yw symlrwydd gweledol y system, y dyluniad minimalaidd sy’n cuddio’r dechnoleg y tu ôl iddo.
Mae wedi’i ddylunio fel monolith, gyda chodiad to dwy fodfedd sydd prin i’w weld, sy’n golygu bod dŵr yn draenio i gwter guddiedig. Mae’r prif baneli wedi’u gwneud o wydr diogelwch 8, 10 neu 12mm wedi’i lamineiddio, a bydd yn para’n hir oherwydd y proffil alwminiwm Solarlux â haen powdr. Mae adlenni tan-wydr ac adlenni fertigol ar gael, ynghyd â goleuadau LED integredig wedi’u hintegreiddio â’r trawstiau.
Byddai Peninsula yn falch iawn o ddangos manteision y system Tŷ Gwydr Acubis. Mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw i gael ymgynghoriad personol.