Drysau Alwminiwm ar gyfer Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer

Mae alwminiwm, a oedd yn arfer cael ei gysylltu â dyluniadau adeiladau masnachol yn unig, bellach wedi'i sefydlu fel deunydd o ddewis ar gyfer adeiladau preswyl cyfoes, moethus o’r radd uchaf.

Mae Peninsula Home Improvements wedi llunio partneriaeth â'r prif wneuthurwr yn y DU, Ffenestri a Drysau Origin, i gynnig dewis trawiadol o ddrysau ffrynt, llithro a deublyg alwminiwm sy'n cyfuno arddull, ffurf a phwrpas.

Mae nifer o fanteision allweddol yn perthyn i alwminiwm; mae’r ffaith ei fod yn gadarn ac yn ysgafn yn golygu bod modd defnyddio fframiau cul iawn, sy'n addas hyd yn oed ar gyfer y paneli gwydr mwyaf, ac mae’n bosibl rhoi haen bowdwr mewn unrhyw liw, ac wrth gwrs mae'n wydn heb lawer o waith cynnal a chadw.

Yn thermol effeithlon, yn cynnwys ffrâm alwminiwm gyda stribed polyamid, ffenestri a drysau alwminiwm yw'r dewis perffaith ar gyfer cartref eich breuddwydion neu ar gyfer adnewyddu eich tŷ.

Drysau Alwminiwm ar gyfer Eiddo Masnachol

Mae gan Peninsula hefyd gryn brofiad o osod gwydrau alwminiwm yn y sector masnachol. Mae dewis eang o baent a gorffeniadau wedi’u hanodeiddio a’u selio’n llawn i sicrhau perfformiad uchel; o ddrysau a ffenestri i waliau llen a ffryntiad siopau, bydd gennym system sy’n addas i’ch gofynion penodol.

Gweld Oriel Llun

We are delighted with the quality product and standard of workmanship. We would recommend you to others without hesitation.
Miss Doney & Miss Clark, Llanddaniel, Ynys Mon

Consumer Protection Association Logo FENSA Logo Secured by Design Logo
Atlas Logo Lumi Logo Markilux Logo Solarlux Logo Solidor Logo Apeer Logo Bereco Logo Internorm Logo Origin Logo REHAU Logo The Residence Collection Logo Roseview Logo
 

Anfon e-bost... Arhoswch...