Ffenestri Llithro Fertigol Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Mae ffenestri codi sy’n llithro wedi rhoi cymeriad i adeiladau Prydain ers yr 17eg ganrif. Fel arfer mae ffenestri codi sy’n llithro yn cynnwys dwy ffenestr godi sy’n symud i fyny ac i lawr o fewn ffrâm y ffenestr, wedi’u cynnal naill ai gan bwysau neu gan sbrings modern.
Mae ffenestri codi yn cael eu disgrifio fel ffenestri Fictoraidd neu Sioraidd ac maent yn ychwanegu gwerth ac yn rhoi cymeriad i dŷ; nid yw hen dai’n edrych yn iawn hebddynt.
Rhoi Edrychiad Modern i Ddyluniad Traddodiadol
Ar gyfer yr 21ain ganrif mae Peninsula yn cynnig edrychiad modern i’r ffenestri clasurol hyn. Ffenestr PVCu modern o’r safon uchaf sy’n edrych fel ffenestri coed traddodiadol; ar gael mewn nifer fawr o liwiau ac arddulliau, gydag effaith graen coed mewnol ac allanol, sy’n addas i unrhyw fath o dŷ.
Ar gael gyda gwydr dwbl neu dair haen, mae ffenestri llithro fertigol Peninsula yn cynnwys sbrings sbiral a chollfarnau agor, a gellir eu hagor ymhellach drwy ddewis opsiwn gogwyddo i mewn.
Mae ffenestri codi sy’n llithro wedi datblygu dros y canrifoedd. Mae’r ffenestri codi yr ydym yn eu gosod heddiw yn cynnwys y technolegau diweddaraf wedi’u cyfuno â manylion dylunio manwl, sy’n cyd-fynd â chwaeth Fictoraidd, gyda’r holl elfennau dylunio clasurol.
Ddogfennau i'w Lawrlwytho