Dodrefn Tu Allan a Setiau Barbeciw Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Dyma’r nwyddau delfrydol ar gyfer eich lle byw awyr agored. Beth am roi eich stamp personol ar eich teras, atriwm gwydr neu dŷ gwydr drwy ychwanegu dodrefn chwaethus sydd ar gael gan ein partner, Canolfan Arddio Frongoch.
Gyda dewis a phrisiau sy’n apelio at bawb, yn cynnwys dodrefn o’r safon uchaf, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth sy’n adlewyrchu eich ffordd o fyw ac sy’n addas i’r llefydd byw awyr agored unigryw a grëwyd gan dai gwydr, atria a ferandas Peninsula.
Dodrefn Patio, Teras a Gardd; Setiau Barbeciw; Pydewau Tân
Mae’r dewis yn cynnwys setiau bistro, setiau byrddau a chadeiriau a setiau cornel sy’n addas ar gyfer llefydd dan do a thu allan, yn ogystal â dewis eang o bydewau tân chwaethus a setiau barbeciw safonol, goleuadau a gwresogyddion tu allan.
Ychwanegwch ddodrefn i roi eich stamp eich hun ar eich lle byw awyr agored.
Cliciwch yma i fynd i wefan Canolfan Arddio Frongoch.