Ffenestri Codi uPVC Roseview
Ffenestri codi uPVC gyda’r gorau yn y diwydiant
Roseview Windows yw prif wneuthurwr ffenestri codi uPVC y DU, gyda thraddodiad sy'n mynd yn ôl i 1985. Nid oes gan unrhyw wneuthurwr arall y profiad o gynhyrchu ffenestri codi uPVC fertigol ag sydd gan Roseview, ac am y rheswm hwn dyma’r ffenestri a ddewiswn ar gyfer gosod ffenestri codi uPVC o’r radd uchaf.
Tri dewis o ffenestri codi uPVC
Mae Roseview yn cynnig tri dewis o ffenestri codi fertigol uPVC; Charisma Rose, Heritage Rose ac Ultimate Rose.
Charisma Rose yw'r mwyaf cost-effeithiol, ond eto mae llawer o dechnoleg fodern a nodweddion diogelwch y tu ôl i’r edrychiad traddodiadol, ac mae'n addas ar gyfer adeiladau newydd a hen dai.
Mae Heritage Rose yn ffenestr gradd-gadwraeth sy'n edrych yn wych mewn tŷ newydd neu hen dŷ. Gyda sawl dewis a gorffeniad gellir eu teilwra i gyd-fynd â gofynion a chyllidebau unigol heb amharu ar estheteg neu berfformiad.
Ultimate Rose yw’r dewis gorau ar gyfer ffenestri codi uPVC. Mae’n hynod debyg i ffenestr goed wreiddiol, gyda fframiau cul, uniadau mecanyddol steil-gwaith coed, cyrn sy’n rhan o wneuthuriad y ffenestr a gorffeniadau graen coed, mae'r ffenestr hon yn cynnig holl fanteision gweledol coed, heb y gwaith cynnal a chadw yn ogystal â manteision deunyddiau a dulliau cynhyrchu modern.
Pa bynnag ffenestr Roseview y byddwch yn ei dewis, mae amrywiaeth eang o dopiau crwn, rhaniadau gwahanol neu ffenestri bae, yn ogystal â nifer o fathau o wydr, dyluniadau bar Sioraidd, dewis o handlenni ayb a lliwiau fframiau. Mae Roseview yn cynhyrchu yn y DU yn unig, ac mae eu ffenestri i gyd yn cael sgôr A am berfformiad thermol.
For further details please see the Roseview web site.
Pam rydyn ni'n hoffi ffenestri codi uPVC Roseview
Yn ein barn ni, ffenestri Roseview yw’r rhai sy’n edrych debycaf i ffenestri codi traddodiadol sy’n llithro’n fertigol. Maent yn cyfuno apêl weledol yr edrychiad traddodiadol gyda manteision deunyddiau a dulliau adeiladu modern, diogelwch ac effeithlonrwydd thermol.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu drafod prosiect i wella’ch cartref gyda ni.
Ddogfennau i'w Lawrlwytho