Ffenestri a Drysau Coed Bereco
Ffenestri a drysau coed cynaliadwy, diogel, ymarferol a hardd
Bereco yw ein prif gyflenwr ar gyfer ffenestri a drysau coed caled o ansawdd, gyda dewis eang o arddulliau ffenestri, drysau ffrynt, drysau deublyg, drysau patio sy’n llithro a drysau Ffrengig.
Cynaliadwyedd, diogelwch, ymarferoldeb a harddwch yw’r hyn a gysylltir â Bereco. Mae Bereco yn cynhyrchu eu ffenestri a’u drysau o goed cynaliadwy yn unig, ac mae'r cwmni'n ymfalchïo mewn rhestr arbennig o lwyddiannau amgylcheddol, o ran eu nwyddau a'u prosesau cynhyrchu.
Mae nwyddau Bereco ar gael mewn amrywiaeth eang o ddyluniadau ac arddulliau sy’n addas i gartrefi traddodiadol a modern. Cyn iddynt adael y ffatri mae holl nwyddau Bereco yn mynd trwy un o’r systemau caenu diweddaraf gan gynnwys proses bedwar cam i roi gorffeniad i’r nwyddau, gyda dewis o staen neu baent ffatri fel gorffeniad mewn unrhyw liw paent RAL, BS neu NCS. Dim ond y darnau gwaith haearn pensaernïol gorau sy'n cael eu gosod, ac mae'r sylw hwn a roddir i fanylder y broses adeiladu, y caenu a'r gorffeniad yn sicrhau eu bod yn para, gyda gwarant hir ar gael, ac oes o 60 mlynedd.
Mae ffenestri a drysau coed gwydr dwbl safonol Bereco yn rhagori hyd at 25% ar y rheoliadau adeiladu Rhan L 2022 newydd, gyda gwerthoedd U yn dechrau o 1.2, a'u gwydrau tair haen hyd at 50% yn well gyda gwerthoedd U yn dechrau o 0.8.
Pam rydyn ni'n hoffi ffenestri a drysau coed Bereco
Mae nodweddion amgylcheddol Bereco yn siarad drostynt eu hunain, mae'r cwmni hyd yn oed yn berchen ar ei goedwig ei hun i gyflenwi ei ofynion cynhyrchu. Yr ymwybyddiaeth amgylcheddol hon, ac ansawdd y nwyddau yw'r prif resymau y mae Peinsula wedi llunio partneriaeth â Bereco, ac rydyn ni’n falch iawn o weld mwy a mwy o berchnogion tai yn lleihau eu hôl troed carbon drwy osod y ffenestri a'r drysau coed gwych, cynaliadwy hyn.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu drafod prosiect i wella’ch cartref gyda ni.