Gwydr Di-ffrâm Lumi Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Mae Peninsula yn falch o fod wedi’i gymeradwyo’n bartner i ffenestri a drysau Lumi ar gyfer ardal Gogledd Cymru a Swydd Gaer. Mynnwch olau yn eich cartref trwy’r arddull hollol newydd hwn; gwydr cyfan o wal i wal sy’n dod â lefel newydd o olau i bob agwedd o’ch cartref.
Mae Lumi yn cynnig ffenestri, drysau plygu a drysau di-ffrâm arloesol newydd y gellir eu haddasu’n benodol i’ch gofynion. Gyda phroffil holl wastad a chyfan, mae’r ffenestri arloesol hyn yn creu wal o olau yn eich cartref. Ac mae’r gyfrinach i gadernid Lumi o dan y lliw seramig – lle mae tair haen o wydr ynni-effeithlon wedi’u huno’n strwythurol i graidd mewnol o broffiliau gwydr ffibr cryf, wedi’u hatgyfnerthu. Mae’r gwneuthuriad hwn yn arloesol; ac mae'n cyfuno manteision dyluniad gwydr di-ffrâm â holl gryfder, diogelwch ac arddull dylunio mewnol ffenestri a drysau mwy traddodiadol.
Gorffeniad Allanol a Mewnol
Mae band ysgafn o liw ceramig wedi’i doddi ar dymheredd hynod o uchel â’r gwydr y tu mewn i’r uned wydr. Mae ar gael mewn 8 gwahanol orffeniad, mae’r holl liwiau’n gwrthsefyll yr elfennau, a gan and oes fframiau allanol mae’n golygu mai ychydig iawn o waith glanhau a chynnal sydd angen ei wneud.
Y tu mewn, a gyda 8 o wahanol orffeniadau mewnol, mae Lumi yn un yn unig o'r cynhyrchion coed neu PVC sy’n cynnig yr un gorffeniad ar fyrddau ffenestri a siliau’r holl ffenestri a drysau yn eich cartref.
Effeithlonrwydd Ynni
Mae dyluniad ffenestri Lumi yn golyghu eu bod yn arbed ynni ac yn gwrthsefyll y tywydd mwyaf eithafol. Gyda’r uned wydr tair haen arloesol 50mm wedi’i hinswleiddio, system rabed ddwbl ddi-ddrafft 80mm gyda sêl tri gasged yn safonol, mae ffenestri Lumi ymysg y rhai mwyaf ynni-effeithlon ar y farchnad ac maent yn gallu cyrraedd gwerthoedd U cyn ised â0.7w/m2k.
Diogelwch
Gyda gwydrau o safon uchel mae angen diogelwch o’r radd flaenaf, dyna pam fod Lumi wedi buddsoddi yn y cloeon diogelwch gorau gyda cholfachau o’r golwg. Mae’r rhain yn golygu y bydd ffenestri Lumi yn dal i weithio am flynyddoedd.