Am Peninsula Home Improvements

Mae Peninsula Home Improvements yn fusnes teuluol a sefydlwyd yn 1984; dyma air o groeso gan Ken Grayson, y Prif Weithredwr:

Rwyf wedi gweithio’n bersonol yn Peninsula Home Improvements ers 1995. Sefydlwyd y cwmni gan fy nhad yn 1984 ym Mhwllheli, ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru yn sgil datblygiad y diwydiant ffenestri PVCu. Treuliais y ddwy flynedd gyntaf yn palu ac adeiladu sylfeini gyda Dyfed Williams, un o’r gweithwyr gwreiddiol oedd yn gosod ffenestri i Peninsula, ac sy’n dal yma heddiw. Yn ddiweddar roeddem yn hel atgofion am yr holl sylfeini yr oeddem wedi’u cloddio, a’u llenwi i gyd â llaw heb gymorth yr un JCB na lori cyflenwi concrid! Ers hynny rwyf wedi gwneud y rhan fwyaf o’r swyddi yn y cwmni o werthu i ddylunio a gwasanaethu, hyd at fy swydd bresennol fel Prif Weithredwr; felly mae gen i brofiad cyflawn iawn o’r sector.

Fy nod oedd canolbwyntio ar ddatblygu’r cwmni gweithgynhyrchu a gosod nwyddau PVCu oedd wedi’i sefydlu ers 15 mlynedd, trwy arallgyfeirio i nifer o farchnadoedd eraill yn cynnwys drysau garej, balconïau gwydr, eco-estyniadau a phodiau gardd i enwi dim ond rhai. Yn fwy diweddar mae Peninsula wedi creu partneriaeth â’r cwmni gweithgynhyrchu byd-enwog o’r Almaen, Solarlux, sy’n arbenigo mewn stafelloedd gwydr pwrpasol, Gerddi Gaeaf a systemau drysau sy’n plygu gyda’r manylebau perfformiad gorau yn y byd. Yn fuan wedyn crëwyd partneriaeth hefyd â ffenestri NorDan er mwyn cynnig ffenestri a drysau coed ac alwminiwm o’r radd flaenaf. Ein strategaeth yw darparu ffenestri gwydr ac estyniadau yn arddull ‘Grand Designs’ i bobl sy’n dymuno cael y nwyddau gorau, a thrwy’r partneriaethau hyn rydym yn gallu gwneud hynny.

His company knowledge and instinct is essential in making that happen. = Ymunodd Dylan Hulse â‘r cwmni yn 2004 pan ddechreuodd weithio ym maes gwerthiant. Mae yntau hefyd wedi tyfu gyda’r cwmni a bellach wedi’i ddyrchafu’n Gyfarwyddwr, ac yn 2014 yn Rheolwr Gyfarwyddwr. Erbyn hyn ef sy’n arwain y gwaith o redeg y cwmni o ddydd i ddydd, mae’n gynorthwyydd arbennig ac yn gyfranddaliwr ac mae ganddo awdurdod llawn i wneud penderfyniadau. Mae’n goruchwylio ac yn rheoli’n uniongyrchol yr adran sy’n cynnal arolygon, yn gosod a gwasanaethu, adran sy’n ehangu’n gyflym yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer. Ein syniad o lwyddiant yw bod pob parti sy’n rhan o unrhyw gontract (a allai amrywio o newid darn o wydr i reoli prosiect adeiladu estyniad llawn), yn fodlon bod yr holl nodau ac amcanion wedi’u cyflawni ar ddiwedd unrhyw brosiect, a bod pob parti dan sylw’n teimlo eu bod wedi sicrhau gwerth. Mae ei wybodaeth am y cwmni a’i reddf yn hanfodol i wireddu hyn.

Mae Samantha Hayter wedi bod gyda’r cwmni ers 2000 gan ymuno â ni fel swyddog marchnata a gwerthiant. Mae Sam wedi datblygu gyda ni ac wedi gweithio yn yr adran cyfrifon a rheoli swyddfa ac ers 2017 mae’n Gyfarwyddwr Cyllid. Mae’n unigolyn hawdd siarad â hi, sy’n paratoi adroddiadau ac yn rhagfynegi’r sefyllfa ariannol yn fanwl, gwasanaeth nad ydym wedi’i gael o’r blaen. Mae'n weithiwr arbennig sydd wedi datblygu i’w swydd bresennol mor naturiol. Mae'n arweinydd wrth reddf gyda sgiliau cynllunio rhagorol a llawer i’w gynnig.

Mae fy nhîm o Gyfarwyddwyr wedi rhoi’r amser a’r gefnogaeth i mi allu gwneud fy swydd fel Prif Weithredwr, yn ystod y cyfnod hwn o dwf uchelgeisiol. Fy rôl allweddol nawr yw canolbwyntio ar ddatblygu strategaeth, gweledigaeth y cwmni, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, a chysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal â goruchwylio marchnata a gwerthiant gyda chymorth Andy Longman, Rheolwr Gwerthiant a Marchnata sydd newydd ei benodi. Rwyf hefyd yn canolbwyntio ar greu cysylltiadau a chwmnïau teuluol lleol eraill sy’n rhannu’r un gwerthoedd ac amcanion â ni o ran cynnig nwyddau o ansawdd uchel a gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

Fuaswn i ddim yn gallu rhedeg y cwmni hwn heb eu cyfraniadau ac rwy’n ddiolchgar iawn eu bod i gyd yn aelodau o fy nhîm.

Fel sefydliad sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, mae Peninsula yn buddsoddi’n helaeth yn y gymuned, ac mae wedi ennill nifer o wobrau am noddi celfyddydau lleol, rhoddion elusennol, cefnogi grwpiau cymunedol a rhoddion i unigolion. Rydym wedi derbyn gwobr gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru am ein dyngarwch, a gan Arts & Business Cymru, am ein cyfraniad i elusennau a sefydliadau celf lleol. Mae’n hollbwysig i’n cwmni ein bod yn cael ein hystyried fel busnes sy’n cyfrannu at y gymuned yr ydym yn gweithredu ynddi, ac mae hyn wrth graidd ein gwerthoedd a’n diwylliant mewn byd sy’n llawn o drachwant corfforaethol a meddylfryd ‘elw yw popeth’. Rydym yn falch o fod yn gysylltiedig â chreadigrwydd, chwaraeon a chrefftwaith trwy ein holl bartneriaethau ac mae hyn yn helpu i wneud Peninsula yn gwmni gwelliannau cartref gwahanol i’r cyffredin.

Ein nod yw parhau i ddatblygu’r cwmni o safbwynt arloesi, gan gynnig y dyluniadau diweddaraf, perfformiad-uchel a gwasanaeth rhagorol a chynnig atebion creadigol i anghenion ein cleientiaid ar gyfer y prosiectau niferus, amrywiol a chyffrous y maen nhw’n eu cyflwyno i ni.

Ein nod yw sicrhau bod y cwmni’n dal yr un mor flaenllaw yn y farchnad gan gynnig gwasanaeth rhagorol a chanolbwyntio ar gynnig atebion arloesol, perfformiad-uchel a chreadigol i anghenion ein cleientiaid ar gyfer y prosiectau cyffrous y maent yn eu cyflwyno i ni. Rydym yn cynnig pecyn llawn o wasanaethau i’n cleientiaid, er enghraifft, o ddylunio’r cysyniad cychwynnol, cynlluniau CAD llawn, gwneud cais am ganiatâd cynllunio ac adeiladu, adroddiad strwythurol gan beirianwyr, rheolaeth lawn o’r holl gwmnïau masnachu sy’n rhan o’r prosiect, i’r gwaith addurno a glanhau terfynol. Gallwn hyd yn oed ymgynghori ar y dylunio mewnol os oes angen.

Gyda 34 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i’r cwmni ddechrau masnachu, rwy’n falch i allu dweud fod y cwmni teuluol llewyrchus hwn yr wyf wedi ei etifeddu gan fy nhad, a sylfaenodd y busnes, wedi parhau i dyfu yn ystod y cyfnod hwn o gynni ariannol ac wedi gallu hunan ariannu buddsoddiad yn ei stafelloedd arddangos a’i isadeiledd. Yn y ddwy flynedd diwethaf rydym wedi ailsefydlu amcanion a thargedau newydd yn cynnwys twf uchelgeisiol a sefydlu ein hunain yn Swydd Gaer lle mae’r busnes yn tyfu. Mae Peninsula mewn sefyllfa wych i gamu i fyny i’r lefel nesaf o lwyddiant wrth i’r economi a’r hyder cyffredinol yn y sector dyfu yn ei sgil.

Hoffem ddiolch i’r holl gwsmeriaid sy’n dychwelyd atom am eu cefnogaeth barhaus, a hefyd i’r cwsmeriaid newydd sy’n dod o hyd i ni trwy eirda, penseiri lleol a’n dulliau marchnata. Heboch chi ni fyddai gennym fusnes o gwbl.

Mae’r holl dîm yma yn Peninsula yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous yn gwella cartrefi, a gobeithio, os nad ydym wedi gwneud hynny’n barod, y gallwn wella eich cartrefi chi’n fuan!

Ken Grayson

Ken Grayson, CEO, Peninsula

CEO - Peninsula

We would just like to write in to express our gratitude to everyone who we dealt with in regards to our conservatory installation and windows. The workmen were polite, on time, worked really hard and completed an installation that the whole of Peninsula can feel rightfully proud of. Lots of positive comments have been forthcoming from friends and family and we would have no hesitation whatsoever in recommending this company.
Mr Withington, Mynytho, Gwynedd

Consumer Protection Association Logo FENSA Logo Secured by Design Logo
Atlas Logo Lumi Logo Markilux Logo Solarlux Logo Solidor Logo Apeer Logo Bereco Logo Internorm Logo Origin Logo REHAU Logo The Residence Collection Logo Roseview Logo
 

Anfon e-bost... Arhoswch...