LivinRoof Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Gyda LivinRoof Peninsula, gallwch gyfuno to solet a gwydr cyfan. Mae'n eich helpu i ehangu eich lle byw, a gwella perfformiad thermol, gan greu stafell y gallwch ei defnyddio ar hyd y flwyddyn.
Os ydych yn codi estyniad newydd i’ch cartref neu’n newid hen do stafell wydr, bydd y LivinROOF yn cynnig hyblygrwydd llwyr o ran dyluniad, a gallwch greu stafelloedd chwaethus thermol effeithlon sy’n wahanol i unrhyw rai eraill ar y farchnad.
Ateb sy’n Defnyddio Ynni’n Effeithlon
Mae strwythur y LivinRoof yn defnyddio system to stafell wydr gyda’r gorau yn y farchnad sy’n gryf a chadarn gyda phaneli allanol cyfansawdd wedi’u hinswleiddio a deunydd inswleiddio slab Kingspan, sy’n gryf a chadarn ond eto’n thermol effeithlon.
Yn Peninsula, rydym yn deall pwysigrwydd golau naturiol mewn unrhyw estyniad. Nodwedd arbennig LivinRoof yw ei fod yn gallu cynnwys un, neu fwy o baneli gwydr sy’n gadael i olau dydd lifo i mewn i’ch stafell, gan wneud yn lle’n oleuach yn syth.