Stafelloedd Gwydr UPVc Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Rydym wedi bod yn dylunio ac adeiladu stafelloedd gwydr am dros 30 mlynedd; mae holl stafelloedd gwydr Peninsula yn gwbl unigryw, ac arbennig.
Mae stafell wydr yn ffordd berffaith i ymestyn eich lle byw, gan greu awyrgylch golau ac ysgafn y gallwch ei fwynhau ar hyd y flwyddyn. Mae ein stafelloedd gwydr unigryw yn ychwanegiad perffaith i’n ffordd o fyw heddiw ac yn cyfuno dyluniad deniadol â pherfformiad ynni a sain gyda’r gorau yn y diwydiant.
Arddulliau Cyfoes neu Draddodiadol
Mae gennym ddyluniadau ac arddulliau sy’n addas i bob cartref. P’un ai y byddwch chi’n dewis stafell wydr Peninsula draddodiadol neu gyfoes, bydd yn dod â dimensiwn newydd i ansawdd eich bywyd a’ch mwynhad o’ch cartref.
Os ychwanegwch ddrysau gwydr neu ddwbl mawr sy’n llithro gallwch agor allan eich cartref, ac uno’r tu allan a’r tu mewn.
Gall Peninsula ddylunio’r stafell wydr berffaith sy’n addas i’ch anghenion a gall ei theilwra i gyd-fynd â chwaeth draddodiadol iawn neu gyfoes. A gyda’n gwasanaeth dylunio ac adeiladu gallwn ofalu am bopeth; o ddylunio a chaniatâd cynllunio, i osod a manylion fel gwres tanlawr, peintio a hyd yn oed tirlunio.