Tai Gwydr Solarlux Gogledd Cymru Caer a Swydd Gaer
Mae Tai Gwydr Solarlux yn uno’r tu mewn a’r tu allan. Maent yn llefydd byw hynod o ddeniadol sy’n rhoi cyfle i chi fwynhau eich gardd neu deras – gan sicrhau eich bod yn mwynhau’r haf, waeth beth fo’r tywydd.
Gan ddechrau gyda chanopi gwydr sy'n cynnig lloches rhag y glaw, mae’n bosibl estyn y system Tŷ Gwydr a chynnwys gwydrau fertigol sy’n llithro i greu lle caeedig sy’n eich diogelu rhag yr elfennau ar hyd y flwyddyn ond gan gadw’r ymdeimlad o fod allan yn yr awyr agored. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.
Lle byw o safon yn yr awyr agored
Mae Solarlux yn adnabyddus am ansawdd eu deunyddiau a’u safon gweithgynhyrchu ac mae’r system Tai Gwydr yn cyfuno’r ansawdd arbennig hwn â dyluniad deniadol heb ei ail. Mae strwythur cynnal cul yn golygu eich bod yn gallu gweld allan yn glir gan greu ymdeimlad gwirioneddol o fod allan. Mae’r system ar gael mewn dewis o alwminiwm neu alwminiwm/coed.
Mae adlenni tan-wydr ac adlenni fertigol ar gael, ynghyd â goleuadau LED integredig a system wresogi isgoch.
Beth am greu eich hafan eich hun y tu allan; i werthfawrogi manteision Tŷ Gwydr Solarlux yn llawn mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw i gael ymgynghoriad personol.