Ffenestri a Drysau Internorm
Ffenestri a drysau ar gyfer cartref eich breuddwydion
Internorm; ffenestri a drysau pwrpasol o ansawdd gwych a gynhyrchir yn Awstria i’r safonau uchaf ac yn unol â’r nodweddion dylunio, lefelau diogelwch a pherfformiad thermol gorau yn y diwydiant.
Mae pensaernïaeth cartref yn amrywio cymaint â'r bobl sy'n byw ynddo; ac mae arddull y ffenestri a'r drysau yn rhan annatod o'r amrywiaeth a'r cymeriad hwnnw. Mae dewis o wahanol ddyluniadau gan Internorm, er mwyn i chi ddod o hyd i’r ffenestr a'r drws sy’n gweddu i'ch cartref. Studio; dyluniad syml soffistigedig. Home Pure; llinellau glân a dyluniad syml. Home Soft; dyluniad modern gydag elfennau clasurol. Ambient; arddull apelgar ar gyfer bywyd bob dydd.
Ffenestri a drysau uPVC
Caiff Internorm ei gydnabos fel un o'r gwneuthurwyr uPVC mwyaf arloesol yn Ewrop. Caiff pob ffenestr a drws Internorm eu cynhyrchu i archeb gan roi sylw i fanylder.
Er bod y nwyddau’n cael eu gwneud yn bwrpasol, maent i gyd yn rhannu rhai nodweddion allweddol, ac mae ansawdd a pherfformiad yn hollbwysig. Caiff gwydrau I-tec eu gosod ar holl ffenestri a drysau uPVC Internorm, gyda’r uned wydr wedi’i huno’n llwyr â’r ffrâm. Mae hyn yn eu gwneud yn gadarn a diogel, ac yn sicrhau’r lefelau uchaf o insiwleiddio thermol ac acwstig.
Ffenestri a drysau uPVC-Alwminium
Mae Internorm yn cynhyrchu ffenestri a drysau cyfansawdd uPVC-alwminiwm yn unol â gofynion penodol cwsmeriaid. Cewch ddewis arddull a maint y ffenestr, y caledwedd, y nodweddion diogelwch, a lefelau amddiffyn rhag yr haul a phreifatrwydd.
Mae ffenestri uPVC-alwminiwm Internorm ar gael sy’n agor trwy droi, agor ar ogwydd a throi-agor ar ogwydd (turn-tilt); ac mae'r dewis o nwyddau uPVC-alwminiwm yn cynnwys gwydrau sefydlog, gwydrau ar raddfa fawr, drysau balconi, drysau patio a drysau llithro / codi-llithro. Caiff yr holl nwyddau Internorm eu cynhyrchu i'r safonau uchaf o ran diogelwch, insiwleiddio thermol ac acwstig, gyda sylw i fanylder sy'n sicrhau edrychiad perffaith a blynyddoedd o wasanaeth dibynadwy.
Ffenestri a drysau Coed-Alwminiwm
Mae ffenestri a drysau cyfansawdd coed-alwminiwm yn cyfuno apêl oesol coed naturiol ar y tu mewn, gyda haen allanol o alwminiwm i ddiogelu'r pren rhag hindreulio ar y tu allan. Mae darn o ewyn arbennig wedi’i osod rhwng y ddau ddeunydd sy’n rhoi lefel uwch o insiwleiddio thermol a gwerth U rhagorol.
Mae ffenestri a drysau coed-alwminiwm Internorm ar gael mewn dewis eang o goed; o sbriws a llarwydd i opsiynau o’r radd uchaf gan gynnwys derw, onnen a chollen Ffrengig, a’r cyfan ar gael mewn amryw o liwiau. Gellir cynhyrchu eich ffenestri a'ch drysau cyfansawdd coed-alwminiwm i gyd-fynd ag arddull y tu mewn i’ch cartref, a'r gwaith coed ynddo.
For further details please see the Internorm web site.
Pam rydyn ni'n hoffi ffenestri a drysau Internorm
Y dewis, ansawdd uwch y nwyddau, y sylw i fanylder yn y dyluniad a’r gorffeniad, y nodweddion dylunio a'r ffaith eu bod yn para’n hir yw'r prif nodweddion sy'n apelio atom, ac sy’n gwneud Internorm yn un o'n brandiau a argymhellir fwyaf ar gyfer ffenestri a drysau o’r radd uchaf. Mae Peninsula yn falch o fod yn bartner Internorm achrededig a gallu helpu perchnogion tai i greu cartref eu breuddwydion.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu drafod prosiect i wella’ch cartref gyda ni.