Ferandas Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Ychwanegwch feranda gyfoes a chwaethus gan Peninsula i greu lle byw newydd sy’n trawsnewid y tu allan i’ch cartref.
Dyma ardal dan do hyblyg lle gallwch fwynhau’r awyr agored a bywyd alfrecso ar hyd y flwyddyn, ac mae’n ychwanegu gwerth i’ch eiddo.
Gallwch hyd yn oed fynd gam ymhellach ac ychwanegu rhannau gwydr fertigol, i gael diogelwch ychwanegol a chreu atriwm gwydr Peninsula.
Mae feranda’n creu lle byw hyblyg yn yr awyr agored, a tho parhaol ar gyfer eich patio, sy’n berffaith ar gyfer ciniawau alfresco. Caiff ei adeiladu’n benodol i’ch manylion chi.