Llefydd Byw Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Pensaerniaeth Mewn Gwyd...
Mae’r ffordd yr ydym yn byw yn newid gydag amser, ac mae ein disgwyliadau a’n gofynion o ran ein cartrefi yn newid hefyd. Mae llefydd byw heddiw’n uno’r tu allan a’r tu mewn; ac yn enghraifft berffaith o’r disgrifiad ‘pensaerniaeth mewn gwydr’.
Dychmygwch wal o wydr, stafell yn llawn golau, a dyna i chi syniad o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda Lle Byw Peninsula; mae popeth yn unigryw, ac arbennig.
Mae Peninsula Home Improvements yn cynnig dewis eang o lefydd byw gwydr a gwydrog; o stafelloedd gwydr traddodiadol mewn PCVu neu alwminiwm llyfn i Erddi Gaeaf Solarlux moethus; o orendai hanesyddol i doeau pwyso, atriau a llusernau to.
Rydym yn cynnig Llefydd Byw mewn gwahanol arddulliau a dyluniadau. Mae croeso i chi gysylltu â ni, byddwn yn falch o neilltuo amser i’ch helpu i wneud y dewis delfrydol ar gyfer eich cartref a’ch ffordd o fyw.
Hefyd mae gwasanaeth dylunio ac adeiladu llawn ar gael, felly gallwch fod yn hyderus y bydd eich Lle Byw delfrydol yn cael ei ddylunio, ei adeiladu a’i osod gan bobl broffesiynol gyda blynyddoedd o brofiad.
Edrychwch ar ein dewis eang o opsiynau Lle Byw byw isod!