Ffenestri a Drysau uPVC REHAU
Ansawdd, arddull a dewis gan y prif wneuthurwr ffenestri a drysau uPVC
REHAU oedd un o'r cwmnïau cyntaf yn y DU i gynhyrchu ffenestri a drysau uPVC. Mae ansawdd eu nwyddau a’u poblogrwydd yn golygu bod 1 o bob 7 ffenestr uPVC a osodir yn y DU yn cael eu gwneud o broffil REHAU.
Gan fod deunyddiau fel alwminiwm a choed caled traddodiadol wedi dod yn fwy poblogaidd, a nwyddau cyfansawdd fel alwminiwm-coed wedi ymddangos ar y farchnad, gellid tybio bod ffenestri a drysau uPVC heb ddal i fyny â’r datblygiadau arloesol hyn. Mae'r dewis REHAU modern yn chwalu'r gred hon go iawn. Ceir dewis cynhwysfawr mewn arddulliau o'r traddodiadol iawn i'r modern iawn sydd oll yn cynnwys y datblygiadau diweddaraf o ran diogelwch ac effeithlonrwydd thermol. Nid yw'n syndod bod ffenestri a drysau uPVC REHAU mor boblogaidd.
Mae nwyddau REHAU yn cynnwys amrywiaeth eang o fathau o ffenestri ac arddulliau, yn ogystal â drysau ffrynt, drysau stabl, drysau llithro, drysau deublyg ac amlblyg, drysau cyfansawdd a drysau Ffrengig. Mae'r cyfan ar gael mewn arddulliau a fydd yn gwella ac yn gweddu i gartrefi traddodiadol a chyfoes, a gellir eu gwneud mewn amrywiaeth eang iawn o orffeniadau a lliwiau.
Caiff ffenestri a drysau uPVC REHAU eu gwneud i bara, gan ddefnyddio proses gynhyrchu sy'n sicrhau gorffeniad llyfn, sgleiniog sy’n para a fydd yn golygu bod eich ffenestri a'ch drysau yn edrych yn wych am flynyddoedd. A gyda diogelwch a pherfformiad thermol ar draws y dewis o nwyddau sy'n bodloni neu'n rhagori ar yr holl Safonau Prydeinig perthnasol gallwch fod yn sicr y bydd eich ffenestri a'ch drysau yn helpu i gadw'ch tŷ yn ddiogel ac yn gynnes yn ogystal â chwaethus.
Pam rydyn ni'n hoffi drysau a ffenestri uPVC REHAU
Mae gan REHAU enw da eithriadol, a haeddiannol iawn yn y diwydiant, ac fel partner REHAU cymeradwy rydyn ni’n falch o gynnig y cyfuniad hwn o ansawdd, dewis, gwasanaeth a dibynadwyedd i'n cwsmeriaid. Mae'r dewis eang o arddulliau a lliwiau sydd ar gael yn sicrhau bod ffenestr neu ddrws REHAU i gyd-fynd â'ch cartref, eich arddull a’ch cyllideb.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu drafod prosiect i wella’ch cartref gyda ni.
Ddogfennau i'w Lawrlwytho