Drysau Patio sy’n Llithro Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer

Mae drysau patio a drysau llithro’n gynhyrchion sydd wedi hen ennill eu plwyf ac sydd wedi datblygu i’r pwynt eu bod yn gallu edrych yn debycach i wal symudol o wydr nac i ddrws.

Mae Peninsula Home Improvements yn cyflenwi systemau drysau llithro gyda’r gorau yn y diwydiant; mae ein drysau llithro gorau wedi’u dylunio’n ddeniadol, gyda fframiau tenau i greu edrychiad cyfoes, ond eto’n ddigon cryf i ddal uned gwydr dwbl sy’n pwyso hyd at 400kg.

Er gwaetha’r arwynebedd gwydr mawr, mae’r systemau drysau llithro a gyflenwir gan Peninsula yn cael eu cynhyrchu a’u gwneud i lefel arbennig fel eu bod yn llithro’n llyfn, gyda’r cyffyrddiad ysgafnaf.

Dewis rhwng Drysau Llithro/Patio a Drysau Plygu

Mae dewis rhwng drysau llithro / patio a drysau plygu yn gallu bod yn anodd; mae’r naill a’r llall yn cynnig agoriadau mawr ac yn edrych yn gyfoes. Mae gan y drysau patio mawr diweddaraf sy’n llithro arwynebedd gwydr enfawr sy’n agor stafelloedd allan, gan eu llenwi â golau, fel eich bod yn gweld allan yn glir.

Os ydych yn ystyried drws gwydr sy’n llithro neu’n plygu ar gyfer eich cartref, mae croeso i chi gysylltu â ni a byddwn yn falch o neilltuo amser i’ch helpu i ddewis y drws delfrydol i’ch cartref a’ch ffordd o fyw.

Ddogfennau i'w Lawrlwytho

Gweld Oriel Llun

Gyda'r holl gwmniau gwydrau dwbl sydd yn gorlifo'r farchnad, eu haddewidion teg am wyrthiau d-gyffelyb a hynny am brisiau anhygoel o isel mae'r damtasiwn yn gref. Gochelwch! Ystyriwch! Nid i Peninsula y mae'r llythyr hwn ond i chwi oll. Nid oes angen llythyr ar Peninsula, gan fod safon eu nwyddau, eu gwaith, eu gwasanaeth, eu hystyriaethau sensitive o bob cwsmer yn ail i neb yma yn y Gogledd, y Canolbarth na Chaerdydd lle mae'r cystadlaeaeth yn enfawr. Mae Peninsula yn rhagori ar y cyfan. Credwch fi; dyna'r gwir.
Mrs Hughes, Caernarfon, Gwynedd

Consumer Protection Association Logo FENSA Logo Secured by Design Logo
Atlas Logo Lumi Logo Solarlux Logo Solidor Logo Rationel Logo Apeer Logo Bereco Logo Internorm Logo VELFAC Logo REHAU Logo The Residence Collection Logo Roseview Logo
 

Anfon e-bost... Arhoswch...