Orendai Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer

Mae Peninsula wedi bod yn dylunio ac adeiladu orendai am dros 30 mlynedd.

Yn draddodiadol roedd orendai’n ymestyn y tymor tyfu ffrwythau. Câi’r rhain eu hadeiladu ar dir cartrefi ffasiynol. Bellach mae’r llinellau clasurol hyn yn cael eu hadlewyrchu yn nyluniad nifer o stafelloedd gwydr pwrpasol a safonol sy’n ehangu’r lle byw ac yn addas i’n ffyrdd o fyw heddiw.

Mae holl orendai Peninsula’n cael eu hadeiladu’n bwrpasol ac yn arbennig, ac maent ar gael mewn nifer fawr o ddeunyddiau o ansawdd o goed caled i alwminiwm llyfn. Mae’r arddulliau’n amrywio o’r traddodiadol i’r cyfoes gyda dyluniadau sy’n addas i unrhyw gartref.

Pa bynnag arddull y byddwch yn ei ddewis, bydd orendy Peninsula yn dod â dimensiwn newydd i ansawdd eich bywyd a’ch mwynhad o’ch cartref.

Uno’r tu Allan a’r tu Mewn

Trwy ychwanegu drysau gwydr neu ddwbl mawr sy’n llithro gallwch agor allan eich cartref, ac uno’r tu allan a’r tu mewn.

Gall Peninsula ddylunio’r orendy perffaith sy’n addas i’ch anghenion a gall ei deilwra i gyd-fynd â chwaeth draddodiadol iawn neu gyfoes. A gyda’n gwasanaeth dylunio ac adeiladu gallwn ofalu am bopeth; o ddylunio a chaniatâd cynllunio, i osod a manylion fel gwres tanlawr, peintio a hyd yn oed tirlunio.

Gweld Oriel Llun

Thank you very much for the work. The sliding sash windows are wonderful and the standard of workmanship was very high. I look forward to coming back to Peninsula for a front door soon.
Miss Owen, Penygroes, Gwynedd

Consumer Protection Association Logo FENSA Logo Secured by Design Logo
Atlas Logo Lumi Logo Solarlux Logo Solidor Logo Rationel Logo Apeer Logo Bereco Logo Internorm Logo VELFAC Logo REHAU Logo The Residence Collection Logo Roseview Logo
 

Anfon e-bost... Arhoswch...