Adlenni Patio a Balconi Dethol Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Gwnewch yn fawr o bob dydd gydag adlenni patio neu falconi safonol Marklux gan Peninsula. Mwynhewch fywyd al fresco; cysgod rhag yr haul ar y diwrnodau poethaf, cynhesrwydd ar nosweithiau oer a lloches rhag y glaw pan fydd y tywydd yn anffafriol.
Mae pob adlen Marklux yn unigryw, a chi yw’r dylunydd. Gyda dewis o 45 o fodelau, dros 250 o ddeunyddiau mewn gwahanol batrymau a dewis eang o liwiau fframiau, gallwch addasu ein hadlenni i unrhyw leoliad a chwaeth.
Cynhyrchir adlenni Marklux yn yr Almaen i’r safon ddisgwyliedig ac mae'n bosibl eu gweithio â llaw neu gyda thrydan. Mae teclyn rheoli o bell ar gael y gallwch hyd yn oed ei weithio drwy eich ffôn clyfar pan ydych i ffwrdd. Mae dewis eang o ategolion i gyd-fynd â’ch adlen, yn cynnwys goleuadau LED a systemau gwresogi isgoch.
Adlenni patio a balconi ar gyfer pob sefyllfa
Mae dewis o adlenni sy’n cau’n gyfan gwbl, systemau pergola gyda strwythur cynnal cul, adlenni parasol, ac adlenni ar eu pennau eu hunain, pob un â chodiad to ac arwynebedd sy’n addas i chi. A pheidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod yn union y math o adlen sy’n fwyaf addas i’ch cartref, mae cyngor a chymorth ar gael.
Mae adlen Markilux gan Peninsula Home Improvements yn gyfuniad delfrydol o ffurf a phwrpas; gan uno arddull, technoleg ac ansawdd arbennig. Mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw i gael ymgynghoriad personol.