Drysau Plygu a Gwydrau Solarlux Gogledd Cymru a Swydd Gaer
Cwmni blaengar o ran drysau gwydr plygu a phensaernïaeth gwydr
Mae Solarlux yn cynhyrchu nwyddau premiwm, sef drysau plygu gwydr a phensaernïaeth gwydr. Sefydlwyd Solarlux yn 1983 ac mae wedi'i leoli yn Bissendorf, Sacsoni Isaf. Mae sylfaenydd a pherchennog y cwmni, Herbert Holtgreife, yn gosod y safonau uchaf ar gyfer ei nwyddau o ran dylunio, ansawdd ac effeithlonrwydd thermol.
Mae Peninsula yn falch iawn o'n cysylltiad â Solarlux, ac rydyn ni’n cynllunio, dylunio a gosod nifer o nwyddau unigryw Solarlux.
Pan fyddwch yn dewis Solarlux gyda Peninsula Home Improvements gallwch fod yn sicr y cewch nwyddau o'r ansawdd a’r perfformiad uchaf; a’r lefelau uchaf o ofal a sylw o safbwynt dylunio, gosod a gofal ôl-werthu.
Drysau gwydr plygu byd-enwog Solarlux
Yr awydd i greu llefydd byw sy'n llawn golau dydd a’r mynediad mwyaf posibl a arweiniodd at ddylunio drws gwydr plygu. Yn wahanol i ddrysau llithro confensiynol, gellir eu hagor yn llawn.
Caiff Solarlux ei gydnabod ledled y byd fel arweinydd y diwydiant ar gyfer drysau gwydr plygu (drysau gwydr deublyg). Mae penseiri a dylunwyr enwog ledled y byd yn dewis drysau gwydr plygu Solarlux; fel Daniel Libeskind, Hermann Hertzberger a Syr Norman Foster. Trwy ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau (gwydr i gyd, coed, alwminiwm, neu gyfansawdd - coed/alwminiwm) mae modd cynnig amrywiaeth eang o wahanol ddyluniadau - pob un wedi'i wneud yn benodol i wella pob prosiect unigol.
Mae drysau plygu gwydr Solarlux yn dod â'r tu allan i mewn i’ch tŷ go iawn, ac yn gwneud y mwyaf o’r golau o fewn eich lle byw.
Gwydrau Solarlux, Gerddi Gaeaf a Phensaerniaeth Gwyd
Mae dewis Solarlux hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o elfennau pensaernïol gwydr llawn steil. O ddrysau llithro a ffenestri, i ganopïau gwydr, i ddewis unigryw o estyniadau gwydr a stafelloedd gwydr.
Nodwch fod llefydd byw llawn gwydr Solarlux a'r gerddi gaeaf yn caniatáu i berchnogion tai fwynhau estyniad gwydrog neu adeilad gwydr ar ei ben ei hun a fydd yn dod â’r tu allan i mewn i’r tŷ, gan greu lle byw ehangach, a rhoi cyfle i bob tymor gael ei fwynhau wrth gysgodi rhag y gwynt a'r tywydd. Mae deunyddiau o ansawdd uchel fel alwminiwm a choed/alwminiwm yn cynnig esthetig unigryw. Mae Gardd Aeaf a Solarlux yn fodern, llawn golau a’r un mor addas i dŷ cyfoes, neu hen dŷ.
Dyluniad sydd wedi ennill gwobr: gwobr dot coch ac iF am ofynion soffistigedig
Mae gan holl nwyddau Solarlux nifer o dystysgrifau gan sefydliadau profi cenedlaethol a rhyngwladol; ac maent yn cael eu profi'n gyson, eu datblygu a'u gwella - mae hyd yn oed dyluniad y drysau gwydr plygu wedi derbyn nifer o wobrau. Yn 2010, derbyniodd drws gwydr plygu SL82 y wobr dylunio cynnyrch iF adnabyddus. Ac yn yr un flwyddyn, aeth y wobr ddylunio bwysig ryngwladol, y wobr dot coch am ddylunio nwyddau, hefyd i'r math llwyddiannus yma o ddrysau plygu llawn gwydr.
Am ragor o fanylion, gweler gwefan Solarlux.
Pam rydyn ni'n hoffi Solarlux
Mae Peninsula yn falch o fod yn Bartner Gweithredol ar gyfer nwyddau Solarlux. Mae ansawdd uchel y nwyddau, y nodweddion dylunio arbennig ac enw da byd-enwog brand Solarlux yn cyd-fynd yn berffaith â'n hangerdd am ragoriaeth wrth i ni geisio dod o hyd i atebion o ansawdd a ffyrdd arloesol i bobl wella eu cartrefi a'u llefydd byw.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu drafod prosiect i wella’ch cartref gyda ni.
Ddogfennau i'w Lawrlwytho